Bodfari

Cyngor Cymuned | Community Council

Bodfari Bywiog!

Mae Bodfari Bywiog yn brosiect cymunedol ar gyfer y teulu cyfan i helpu i blannu coed perllan, i ddysgu am fywyd gwyllt, i greu a dathlu storïau gyda chadair storïwyr, ac i ddylunio map i’w arddangos yn y pentref. Mae’n cael ei ariannu drwy arian gan Arian i Bawb y Gronfa Loteri Fawr yng Nghymru. Bydd yr holl ddigwyddiadau’n digwydd ar faes chwarae Bodfari. Bydd dyddiadau’r digwyddiadau’n cael eu hysbysebu ar ein hysbysfyrddau ac mewn taflenni i wneud yn siŵr bod pawb yn cael cyfle i gymryd rhan. Cysylltwch â Naomi Luhde-Thompson am ragor o wybodaeth ac i gymryd rhan.

Llyfryn Cofeb Ryfel Bodfari ac Aberchwiler

Efallai y cofiwch chi fod David Owen wedi bod yn gweithio ar y prosiect uchod pan adawodd ef a Mary Bodfari i symud i Ogledd Swydd Efrog ym mis Medi 2012. Ers hynny mae rhagor o ymchwil wedi’i wneud ac mae wedi argraffu 50 copi o’r llyfryn sy’n ffrwyth ei ymchwil mewn pryd ar gyfer Sul y Cofio. Mae 40 o gopïau wedi’i hanfon at y Parch Lloyd Hughes i’w gwerthu i’r sawl sydd â diddordeb yn hanes y bobl y mae eu henwau’n ymddangos ar y ddwy Gofeb Ryfel. Bydd yr elw’n mynd tuag at gynnal Eglwys San Steffan.

Rwyf yn siŵr ein bod i gyd yn ddiolchgar i David am yr oriau o waith ymchwil mae wedi’u rhoi i gynhyrchu’r llyfryn hwn, a fydd yn rhan o hanes eglwys San Steffan i genedlaethau’r dyfodol.

Diwrnod Afalau Cenedlaethol Blynyddol

Mae Cyngor Cymuned Bodfari yn cynnal Diwrnod Afalau ar gyfer y gymuned bob blwyddyn. Gallwch ddod â’ch afalau eich hun, a’u gwasgu i wneud sudd i fynd adref gyda chi. Darperir lluniaeth.

Hawlfraint © 2014-2020
Cyngor Cymuned Bodfari