Bodfari

Cyngor Cymuned | Community Council

Croeso i wefan Cyngor Cymuned Bodfari

HYSBYSIAD O GYFETHOL

RHODDIR HYSBYSIAD TRWY HYN fod UN sedd(i) gwag amswydd Cynghorydd yn y Gymuned/Ward uchod, a bod y Cyngor Cymuned yn bwriadu cyfethol.

Cliciwch yma am fwy o fanylion.

 

Mae Bodfari yn bentref bychan ar gyrion Bryniau Clwyd, ger Dinbych. Mae yma ysgol gynradd, Ysgol Bodfari, dwy dafarn, y Dinorben Arms (sydd yn mynd i agor ym mis Hydref 2016), a’r Downing Arms, a chaffi, siop ac oriel, Yr Oriel Gallery. 

Mae’r dystiolaeth bendant gynharaf bod pobl wedi bod yn byw yng nghyffiniau Bodfari i’w gweld ar ffurf y fryngaer ar gopa Moel y Gaer, i’r gogledd orllewin o’r pentref. Mae’n un o’r lleiaf a’r isaf o gadwyn o fryngaerau sydd i’w gweld ar Fryniau Clwyd. Mae’n debyg ei bod yn dyddio o’r Oes Haearn, a’i bod wedi’i hadeiladu tua 2,500 o flynyddoedd yn ôl.

Mae’n bosibl hefyd bod is-gaer Rufeinig ar is-briffordd rhwng Caer a Watling Street. Tybiwyd ar un adeg fod yr enw’n deillio o enw cadfridog Rhufeinig, Varius, ond credir bellach nad oes sail i hyn. Yn sicr mae gweddillion yrnau, crochenwaith, arfau a darnau arian Rhufeinig wedi’u canfod yn yr ardal. 

Eglwys y pentref yw San Steffan, gyda’i thŵr yn dyddio o’r cyfnod canoloesol hwyr (13eg ganrif mewn gwirionedd), er bod y cyfeiriad cynharaf at blwyf Bodfari yn arolwg Domesday yn 1088. Credir mai ei sylfaenydd oedd Deifar neu Diar. Roedd ffynnon sanctaidd St Deifar yn enwog am wasanaeth gorymdeithiol y Dyrchafael ac fel man lle’r oedd plant yn cael eu trochi at eu gyddfau mewn tair o’i chorneli eu mwyn eu hatal rhag crio yn y nos. Cafodd corff yr eglwys ei ailadeiladu yn 1865.

 

Hawlfraint © 2014-2020
Cyngor Cymuned Bodfari